Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
30 Mehefin 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(30 munud)
4 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
[Gofyn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd]
Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar bolisi dadfeddiannu Llywodraeth Cymru?
[Gofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg]
Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru): Yn sgil sylwadau a wnaed gan y Gweinidog mewn sesiwn friffio i'r wasg ar y coronafeirws ddydd Llun, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru i weithredu eu rheolau diogelwch COVID-19 eu hunain yn y tymor nesaf?
5 Datganiadau 90 eiliad
(5 munud)
Cynnig i ethol Aelodau i'r Pwyllgor Cyllid
(5 munud)
NDM7746 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
1. Rhianon Passmore (Llafur Cymru), Alun Davies (Llafur Cymru), a Peter Fox (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor Cyllid.
6 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar ddull sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer gwasanaethau i bobl hŷn
(30 munud)
NDM7713 Gareth Davies (Dyffryn Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n ymgorffori dull sy'n seiliedig ar hawliau wrth ddatblygu, cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn wrth wneud penderfyniadau a allai effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru;
b) ymestyn y ddyletswydd sylw dyledus i awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru;
c) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn ymhlith pobl hŷn ac awdurdodau cyhoeddus Cymru;
d) ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd Pobl Hŷn, pobl hŷn a rhanddeiliaid perthnasol eraill cyn gwneud neu ddiwygio'r cynllun hawliau pobl hŷn; ac
e) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau cyhoeddus Cymru.
Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn (Saesneg yn unig)
7 Dadl Plaid Cymru: Hinsawdd a bioamrywiaeth
(60 munud)
NDM7725 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi datganiad y Senedd o argyfwng hinsawdd yn 2019.
2. Yn nodi y bydd 15fed cyfarfod Cynhadledd y Partïon (COP15) i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) yn cyfarfod yr hydref hwn i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang.
3. Yn credu y dylid sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth.
4. Yn cydnabod yr angen i gau'r bwlch llywodraethu amgylcheddol a grëwyd drwy adael yr UE.
5. Yn datgan argyfwng natur.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol;
b) deddfu i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol i Gymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y cyfle i Gymru fod yn arweinydd byd-eang ar lywodraethu amgylcheddol ers i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 6:
'gweithio'n agosach gyda Llywodraeth y DU ar yr ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac adfer natur.'
8 Cyfnod pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7743 James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Effaith rheoliadau ffosffad Cyfoeth Naturiol Cymru.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 6 Gorffennaf 2021